Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 23 Tachwedd 2022

Amser y cyfarfod: 13.30
 


105(v4)  

------

<AI1>

Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

</AI1>

<AI2>

1       Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd

(45 munud)

Mae’r Llywydd wedi cael gwybod, o dan Reol Sefydlog 12.58, y bydd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn ateb cwestiynau ar ran y Gweinidog.

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Dirprwy Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI2>

<AI3>

2       Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI3>

<AI4>

3       Cwestiynau Amserol

(20 munud)

Gofyn i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o sut bydd dyfarniad y Goruchaf Lys ar fwriad Senedd yr Alban i gynnal ail refferendwm ar annibyniaeth yn effeithio ar allu Cymru i benderfynu ar ei dyfodol cyfansoddiadol ei hun?

</AI4>

<AI5>

4       Datganiadau 90 Eiliad

(0 munud)

</AI5>

<AI6>

5       Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2023-24

(30 munud)

NDM8137 Ken Skates (De Clwyd)

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:

Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2023-24, fel y pennir yn Nhabl 1 o Gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2023-24, a osodwyd gerbron y Senedd ar 9 Tachwedd 2022, a’i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26(ii).

Dogfennau Ategol

Adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Ymateb Comisiwn y Senedd i adroddiad y Pwyllgor Cyllid

Llythyr gan Gomisiynydd y Cyllideb a Lywodraethu i’r Pwyllgor Cyllid

</AI6>

<AI7>

6       Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Chweched Adroddiad i’r Chweched Senedd o dan Reol Sefydlog 22.9

(15 munud)

NDM8136 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad - Chweched Adroddiad i'r Chweched Senedd a osodwyd gerbron y Senedd ar 16 Tachwedd 2022 yn unol â Rheol Sefydlog 22.9

2. Yn cymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad.

</AI7>

<AI8>

7       Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Iechyd meddwl a gwytnwch cymunedol

(60 munud)

NDM8130 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) cyhoeddi adroddiad Gyda'n Gilydd drwy Adegau Anodd gan MIND Cymru;

b) bod gwytnwch cymunedol yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl da.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gweithio gyda'r sector gwirfoddol a chymunedol i adeiladu cymunedau gwydn drwy:

(i) hyrwyddo cyfalaf cymdeithasol;

(ii) buddsoddi mewn asedau cymunedol;

(iii) mynd i'r afael â rhwystrau sy'n wynebu rhai grwpiau;

b) cynnwys y rôl a chwaraeir gan asedau a rhwydweithiau cymunedol mewn unrhyw strategaeth iechyd meddwl yn y dyfodol.

Gyda'n Gilydd drwy Adegau Anodd

Cefnogwyr

Huw Irranca-Davies (Ogwr)

Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)

Sam Rowlands (Gogledd Cymru)

Sioned Williams (Gorllewin De Cymru)

Vikki Howells (Cwm Cynon)

</AI8>

<AI9>

8       Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai - Darparu safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr

(60 munud)

NDM8139 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, 'Darparu safleoedd ar gyfer cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Awst 2022.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Tachwedd 2022.

</AI9>

<AI10>

9       Dadl Plaid Cymru - Tâl nyrsys

(60 munud)

NDM8140 Sian Gwenllian (Arfon)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn credu bod nyrsys Cymru yn haeddu tâl teg am eu gwaith hanfodol o ran cadw ein cymunedau'n ddiogel ac yn iach.   

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio pob ysgogiad datganoledig sydd ar gael iddi er mwyn gwneud cynnig tâl gwell i nyrsys y GIG yng Nghymru.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu pwynt 2

Gwelliant 2 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyfarfod â Choleg Nyrsio Brenhinol Cymru i drafod ei ymgyrch ar gyfer cyflog teg a staffio diogel i osgoi streicio y gaeaf hwn.

</AI10>

<AI11>

10    Cyfnod Pleidleisio

 

</AI11>

<AI12>

11    Dadl Fer

(30 munud)

NDM8138 Cefin Campbell (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Mewn undod mae nerth: mentrau cymdeithasol a busnesau dan berchnogaeth cymunedau yng Nghymru

</AI12>

 

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 29 Tachwedd 2022

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>